Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 16 Ionawr 2017
Amser: 14.00 -
16.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3907
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Steve Clarke, Welsh Tenants Federation Neil Howell, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Jim McKirdle, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Gavin Smart, Chartered Institute of Housing (CIH) UK David Wilton, TPAS |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Gillian Body - Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Nick Selwyn - Swyddfa Archwilio Cymru: |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Steve Clarke, Rheolwr Gyfarwyddwr, Tenantiaid Cymru a David Wilton, Cyfarwyddwr, Gwasanaeth Cynghori ar Gyfranogiad Tenantiaid (TPAS Cymru) fel rhan o'i ymchwiliad i oruchwyliaeth reoleiddiol ar Gymdeithasau Tai.
4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jim McKirdle, Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Neil Howell, Pennaeth Tai a Chefnogi Busnes, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Gavin Smart, Dirprwy Brif Weithredwr, Sefydliad Tai Siartredig (CIH) y DU fel rhan o'i ymchwiliad i oruchwyliaeth reoleiddiol ar Gymdeithasau Tai.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd yr aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
7.1 Anerchodd Archwilydd Cyffredinol Cymru y Pwyllgor ynghylch ei flaenraglen waith a strategaeth ddrafft Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2017-2020.